Galar a Fi

Dwi wedi penderfynu ysgrifennu yr hyn yr oeddwn yn ceisio ei ddweud ar noswaith lawnsiad ‘Galar a Fi’. Dydy siarad yn gyhoeddus ddim yn rhywbeth sy’n dod yn naturiol i mi, ond mae ysgrifennu yn. Do, mi siaradais ar y noson, ond yr eiliad camais oddi ar y llwyfan, doeddwn i ddim yn gallu cofio r’un gair o’n i wedi ei ddweud! Poeni wedyn, fel ydw i. Nes i ddweud yn iawn? Nes i wneud synnwyr?

Felly dyma fo’n ysgrifenedig, yr hyn dwi’n ei obeithio fy mod wedi llwyddo i gyfleu ar y noswaith. Dyma fo yn ddu a gwyn rhag ofn i mi fethu.

Ateb cwestiwn oeddwn i am ba mor bwysig oedd ysgrifennu’n agored ac onest i fi. A dyma fi’n ateb…

Mae o’n hollol bwysig i fi fy mod i yn agored ac onest. Dysgais bwysigrwydd hyn cyn i mi golli Ned. Cuddiais y ffaith fy mod yn sal am sawl blwyddyn. Trio cario mlaen. Gwneud esgusodion. Ond llusgo fy hun at y doctor bu rhaid yn y diwedd a chyfadde nad oeddwn eisiau byw rhagor. Y doctor wedyn yn gafael yn fy llaw ac yn dweud fod pob dim yn iawn, bo fi’n sal, yn dioddef o iselder clinigol a’i bod hi’n mynd i fod gyda fi bob cam o’r ffordd wrth i mi frwydro’r salwch.

Cododd bwysau o’m hysgwyddau. Dwi’n sal, feddyliais, a mae hi’n mynd i fy helpu. Mynd ati hi wedyn yn wythnosol a siarad; gadael i’r holl deimladau oedd yn pwyso’n drwm yn fy stumog allan. A doeddwn i ddim yn teimlo unrhyw gywilydd. Salwch oedd gen i, nid fy mai i oedd o.

Dechreuais ysgrifennu blog ar iselder, gan bo ysgrifennu yn rhywbeth dwi’n neud, rhywbeth sy’n fy helpu i. Ond dechreuais gael bobl yn ymateb i’r blog, yn dweud bo fy ngeiriau i’n eu helpu, bo nhw yn yr un man a fi. Cefais syndod enfawr – fy ngeiriau i yn helpu eraill? Dyna oedd deimlad da.

Ond yna daeth fy myd i ben. Daeth y geiriau fwyaf creulon gall unrhyw riant eu clywed … roedd Ned wedi cael ei ladd mewn damwain car. Ned bach fi. Bachgen bach pump oed. Doeddwn i methu gwneud synnwyr o ddim byd. Doeddwn i erioed wedi profi galar o’r blaen, felly pan ddaeth fel hunllef fyw i’m bywyd, doedd gen i ddim syniad sut i’w reoli.

O’r oriau cyntaf fe ges i help broffesiynol gan y meddyg teulu a’r tim iechyd meddwl – a hynny gan fy mod wedi cyfadde chydig dros flwyddyn ynghynt fod rhywbeth yn bod efo fi. Pwy a wyr beth fyddwn wedi ei wneud petai’r help yna heb fod ar gael i mi o’r cychwyn.

Does gen i fawr ddim cof o’r misoedd yn dilyn y ddamwain, ond roedd y cymorth yn ei le, fel rhwyd diogelwch yn dynn amdanaf. Ac roedd ei angen arnaf. Roedd fy ymateb i i’r golled erchyll yn un cymhleth a pheryglus.

Pan ges i’r gwahoddiad i gyfrannu at y gyfrol hon, y peth gyntaf feddyliais oedd, os ydw i am gyfrannu yna mi fydd yn rhaid i mi ysgrifennu’n gwbl agored ac onest, neu fel arall beth byddai’r pwynt? Ond mae’n anodd siarad allan. Mae’n anodd cyfadde’r pethau difrifol dwi wedi eu gwneud, a chyfadde eu bod dal yn cripian fyny arnaf o bryd i’w gilydd, ddeunaw mis ar ol y ddamwain. Mae’n anodd rhoi eich hyn yn yr agored lle da chi’n gallu cael eich barnu. Mae’n iawn yn yr ystafell ddoctor, neu gyda’r cwnselwr neu’r seicolegydd a’r drws ar gau. Ond siarad allan fel bo pawb yn clywed, mae hynny’n wahanol.

Bues i am hir yn meddwl sut i ddechrau. Doedd gen i ddim geiriau byddai’n gallu disgrifio’r hunllef dwi’n byw ynddi. Ond yna fe ddaeth yn glir ataf. Dweud wrth Ned. Dyna dwi’n ei wneud wrth eistedd ar lan ei fedd. Dweud y cyfan wrtho. A dyna ni, llifodd y geiriau allan a cheisiais dangos effaith galar ar fy mywyd – dangos y poen, yr euogrwydd, y salwch.

Dwi’n gwbod fod rhai wedi ei ffeindio’n anodd i’w ddarllen; yn ffeindio’r darn yn frawychus. Ond gallai ddim cuddio. Gallai ddim cau’r drws ac esgus nad fel hyn yw fy mywyd. Pwy fydd yn elwa o hynny? Nid fi, ac yn bendant neb arall.

Felly dyma fi yn siarad allan, yn dweud yn uchel i bawb fy nghlywed. Dwi’n dioddef, dwi mewn poen anioddefol. Dwi wedi cael diagnosis o iselder seicotig a PTSD. Dwi ar lot fawr o feddyginiaeth ac yn derbyn therapi wythnosol gan seicolegydd.

Ond does na ddim un tabled all wella galar, gan mai nid salwch ydi galar. Mae o’n gallu arwain at salwch fel sy wedi digwydd i mi. Ond mae galar ei hunan yn hen fwystfil hyll sy’n byw y tu mewn i chi. Mae o yn eich esgyrn, yn eich calon, yn eich enaid. Mae o’n anferthol, ond mae rheswn dros hyn. Y pris mae’n rhaid talu am gariad ydi galar.

Does dim gwella, dim ond ceisio dysgu byw efo’r hen fwystfil sydd raid. Ac mae hynny’n broses hir ofnadwy, mae’n siwrne a fu’n parhau am weddill eich bywyd. Does gen i ddim yr ateb ar sut mae gwneud hyn. Does gen i ddim syniad. Dim ond bodoli dwi’n neud ar hyn o bryd. Ond mae hynny’n ddigon am nawr. Jyst bod yma – yn wraig i Bleddyn ac yn fam i Tomi a Cai. Ac efallai yn fwy pwysig na dim, yn dal i fod yn fam i Ned. Siarad amdano bob dydd, rhannu atgofion gyda’r teulu a ffrindiau agos. Cadw Ned yng nghof bawb oedd yn ei adnabod, a’r rhai na gafodd y fraint o ‘nabod y bachgen bach direidus oedd yn wen o glust i glust drwy dydd, bob dydd.

Dyna’r anrheg dwi wedi ei chael o gael y cyfle i gyfrannu at y gyfrol pwysig hon. Mae enw Ned yna, i bawb i’w weld. Fy machgen bach annwyl i na gafodd y cyfle i fyw ond am bum mlynedd. Ond oherwydd ‘Galar a Fi’, mi fydd o’n byw yng nghof pobl am byth. Ned.

DSCN0315 (2)

51E+cMJlgTL._SY344_BO1,204,203,200_

Advertisements

4 thoughts on “Galar a Fi

Leave a Reply

Fill in your details below or click an icon to log in:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Change )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out /  Change )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out /  Change )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Change )

Connecting to %s